Mae croeso i bawb i’n clwb – plant a phensiynwyr; brodorion ac ymwelwyr; grandmasters a dechreuwyr.
Galwch heibio am gêm - dim tâl aelodaeth, popeth am ddim!
Rydym yn cyfarfod ddwy waith y mis yn Llyfrgell Caernarfon, nos Fawrth cyntaf y mis a’r trydydd am 6:30p.m.
Hefyd chwaraewn yn y Llyfrgell brynhawniau Iau, 2 - 4 p.m.